Iesu yw 'Mrawd a 'Mhriod pur

1,2,(3,4,5),6.
(Cyflawnder Crist)
Iesu yw 'Mrawd a 'Mhriod pur,
  Ac iddo rhois fy nghred;
Neb ond ei hunan ddwg fy maich,
  Ei hunan dâl fy n'led.

Fe wrendy 'nghri pan elwy'n wan,
  Ei gariad sydd yn fawr;
A byth nis gad yn hir fi gael
  Fy nghuro ar y llawr.

Ni fethodd gweddi daer erioed
  A chyrhaedd hyd y nef;
Ac mewn cyfyngder f'enaid, rhed
  Yn union ato Ef.

Ac nid oes gyfaill mewn un man
  Cyffelyb iddo'n bod,
Pe baem yn chwilio daear faith,
  A holl derfynau'r rhod.

Y'mhob rhyw doniau mae yn fawr,
  Anfeidrol yw ei rym;
Ac nid oes pwysau ar ei ras,
  Na'i haeddiant dwyfol ddim.

Mae ei ffyddlondeb fel y môr,
  Heb fesur a heb drai;
A'i drugareddau hyfryd sy'n
  Dragywydd yn parhau.
William Williams 1717-91

Tôn [MC 8686]: Arabia (hen alaw)

gwelir:
  Agorwyd pyrth y nefoedd wen
  Iesu yw tegwch mawr y byd
  Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd
  Mor hyfryd mynd o dwrf y byd
  Ni fethodd gweddi daer erioed
  Ni's gall angylion pur eu dawn

(The Fullness of Christ)
Jesus is my Brother and my pure Spouse,
  And in him I have put my trust;
None but he himself took my burden,
  He himself paid my debt.

He will listen to my cry when I call weakly,
  His love is great;
And he will never let my be beaten
  For long on the earth.

An earnest prayer never failed
  To reach as far as heaven;
And in straits, my soul, run
  Directly to him.

And there is no friend anywhere
  Being like unto him,
If I were to search the vast earth,
  And the limits of the sky.

In all kinds of gifts he is great,
  Immeasurable is his power;
And there is no weighing of his grace,
  Nor of his divine merit.

His faithfulness is like the sea,
  Without measure and without ebbing;
And his delightful mercy is
  Eternally enduring.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~